1 Dyma'r lleoedd wnaeth pobl Israel deithio iddyn nhw (yn eu trefn) ar ôl dod allan o wlad yr Aifft dan arweiniad Moses ac Aaron.
2 Roedd Moses wedi cadw cofnod o wahanol gamau'r daith, fel roedd yr ARGLWYDD wedi gofyn iddo wneud. A dyma eu symudiadau nhw:
3 Gadawodd pobl Israel Rameses ar y diwrnod ar ôl y Pasg, sef y pymthegfed diwrnod o'r mis cyntaf. Aethon nhw allan yn hyderus, o flaen pobl yr Aifft i gyd.
4 Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr ARGLWYDD oedd wedi eu lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw yn dda i ddim.
5 Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.
6 Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.