33 Gadael Chor-haggidgad a gwersylla yn Iotbatha.
34 Gadael Iotbatha a gwersylla yn Afrona.
35 Gadael Afrona a gwersylla yn Etsion-geber.
36 Gadael Etsion-geber a gwersylla yn Cadesh yn anialwch Sin.
37 Gadael Cadesh a gwersylla wrth Fynydd Hor sydd ar ffin gwlad Edom.
38 Roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Aaron yr offeiriad am fynd i ben Mynydd Hor. A dyna lle buodd Aaron farw, ar ddiwrnod cynta'r pumed mis, bedwar deg o flynyddoedd ar ôl i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.
39 Roedd Aaron yn gant dau ddeg tri mlwydd oed pan fu farw.