4 Roedd pobl yr Aifft wrthi'n claddu eu meibion hynaf. Yr ARGLWYDD oedd wedi eu lladd nhw y noson cynt, ac wedi dangos fod eu duwiau nhw yn dda i ddim.
5 Ar ôl gadael Rameses, dyma bobl Israel yn gwersylla yn Swccoth.
6 Yna gadael Swccoth a gwersylla yn Etham, sydd ar ymyl yr anialwch.
7 Gadael Etham a mynd yn ôl i gyfeiriad Pi-hachiroth, sydd i'r dwyrain o Baal-tseffon, a gwersylla wrth ymyl Migdol.
8 Gadael Pi-hachiroth, a mynd trwy ganol y môr i'r anialwch yr ochr draw. Yna teithio am dri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersylla yn Mara.
9 Gadael Mara a gwersylla yn Elim, lle roedd deuddeg ffynnon a saith deg coeden balmwydd.
10 Gadael Elim a gwersylla wrth y Môr Coch.