40 Wedyn clywodd brenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef (de gwlad Canaan), fod pobl Israel ar eu ffordd.
41 Yna dyma bobl Israel yn gadael Mynydd Hor a gwersylla yn Salmona.
42 Yna gadael Salmona a gwersylla yn Pwnon.
43 Gadael Pwnon a gwersylla yn Oboth.
44 Gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm, ar y ffin gyda Moab.
45 Gadael Ïe-hafarîm a gwersylla yn Dibon-gad.
46 Gadael Dibon-gad a gwersylla yn Almon-diblathaim.