47 Gadael Almon-diblathaim a gwersylla ym mynyddoedd Afarîm, gyferbyn â Nebo.
48 Gadael mynyddoedd Afarîm a gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho.
49 (Roedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, yr holl ffordd o Beth-ieshimoth i Abel-sittim.)
50 Pan oedden nhw'n gwersylla ar wastatir Moab wrth Afon Iorddonen, gyferbyn â Jericho, dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
51 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi wedi croesi'r Iorddonen a mynd i mewn i wlad Canaan
52 dw i eisiau i chi yrru'r bobl sy'n byw yno allan o'r wlad. Rhaid i chi ddinistrio'r eilunod wedi eu cerfio, a'r delwau o fetel tawdd, a chwalu'r allorau paganaidd i gyd.
53 Dw i eisiau i chi gymryd y wlad drosodd, a setlo i lawr ynddi. Dw i wedi rhoi'r wlad i chi. Chi piau hi.