1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dywed wrth bobl Israel: ‘Pan ewch i mewn i wlad Canaan, dyma'r ffiniau i'r tir dw i'n ei roi i chi i'w etifeddu:
3 Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.
4 Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon.