3 Bydd ffin y de yn mynd o anialwch Sin i'r ffin gydag Edom. Bydd yn ymestyn i'r dwyrain at ben isaf y Môr Marw.
4 Bydd yn mynd i'r de, heibio Bwlch Acrabbîm (sef Bwlch y Sgorpion), ymlaen i Sin ac yna i gyfeiriad Cadesh-barnea, ac wedyn i Chatsar-adar a throsodd i Atsmon.
5 O'r fan honno bydd y ffin yn troi i ddilyn Wadi'r Aifft ac allan i Fôr y Canoldir.
6 “‘Y Môr Mawr (sef Môr y Canoldir) fydd y ffin i'r gorllewin.
7 “‘Bydd ffin y gogledd yn mynd o Fôr y Canoldir i Fynydd Hor,
8 ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad.
9 Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.