8 ac yna i Fwlch Chamath ac ymlaen i Sedad.
9 Yna o Sedad ymlaen i Siffron, ac wedyn i Chatsar-einan. Dyna fydd ffin y gogledd.
10 “‘Bydd ffin y dwyrain yn mynd i gyfeiriad y de o Chatsar-einan i Sheffam;
11 wedyn o Sheffam i Ribla sydd i'r dwyrain o Ain. Yna i lawr ochr ddwyreiniol Llyn Galilea,
12 ac ar hyd Afon Iorddonen yr holl ffordd i'r Môr Marw. Dyna fydd y ffiniau o gwmpas eich tir chi.’”
13 A dyma Moses yn dweud wrth bobl Israel: “Dyma'r tir fydd yn cael ei rannu rhyngoch chi. Mae'r ARGLWYDD wedi dweud ei fod i gael ei roi i'r naw llwyth a hanner sydd ar ôl.
14 Mae llwythau Reuben a Gad, a hanner llwyth Manasse wedi cael eu tir nhw.