1 Dyma'r ARGLWYDD yn siarad â Moses ar wastatir Moab, wrth yr Afon Iorddonen gyferbyn â Jericho.
2 “Dywed wrth bobl Israel am roi rhai o'u trefi i'r Lefiaid i fyw ynddyn nhw, gyda tir pori i'w hanifeiliaid.
3 Wedyn bydd ganddyn nhw le i fyw, a thir pori i'w gwartheg a'u defaid a'u hanifeiliaid eraill.
4 Rhaid i'r tir pori o gwmpas y trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid ymestyn am tua 675 metr o wal y dre.