16 “‘Ond mae rhywun sy'n taro person arall yn farw gyda bar haearn yn llofrudd. Rhaid gweinyddu'r gosb eithaf – mae'n llofrudd.
17 Neu os ydy e'n taflu carreg ddigon mawr i ladd rhywun at berson arall, a'r person hwnnw'n marw, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.
18 Neu os ydy e'n taro rhywun yn farw gyda darn o bren, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.
19 Mae gan berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd yn y fan a'r lle.
20 Os ydy rhywun yn lladd person arall drwy ei daro gyda rhywbeth neu daflu rhywbeth ato'n fwriadol,
21 neu drwy roi dyrnod iddo, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Rhaid i berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio ladd y llofrudd yn y fan a'r lle.
22 “‘Ond os oedd wedi taro'r person arall neu daflu rhywbeth ato a'i daro yn ddamweiniol,