18 Neu os ydy e'n taro rhywun yn farw gyda darn o bren, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw.
19 Mae gan berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio hawl i ladd y llofrudd yn y fan a'r lle.
20 Os ydy rhywun yn lladd person arall drwy ei daro gyda rhywbeth neu daflu rhywbeth ato'n fwriadol,
21 neu drwy roi dyrnod iddo, mae'n llofrudd. Rhaid i'r llofrudd farw. Rhaid i berthynas agosaf y person gafodd ei lofruddio ladd y llofrudd yn y fan a'r lle.
22 “‘Ond os oedd wedi taro'r person arall neu daflu rhywbeth ato a'i daro yn ddamweiniol,
23 neu ollwng carreg ddigon mawr i'w ladd, heb fod wedi ei weld. Hynny ydy, os oedd dim casineb na bwriad i wneud drwg i'r person arall,
24 rhaid i'r bobl farnu'r achos rhwng yr un sy'n cael ei gyhuddo o ladd a'r perthynas agosaf sydd am ddial arno.