22 “‘Ond os oedd wedi taro'r person arall neu daflu rhywbeth ato a'i daro yn ddamweiniol,
23 neu ollwng carreg ddigon mawr i'w ladd, heb fod wedi ei weld. Hynny ydy, os oedd dim casineb na bwriad i wneud drwg i'r person arall,
24 rhaid i'r bobl farnu'r achos rhwng yr un sy'n cael ei gyhuddo o ladd a'r perthynas agosaf sydd am ddial arno.
25 Rhaid i'r bobl amddiffyn y lladdwr rhag y perthynas agosaf sydd am ddial arno. A rhaid anfon y lladdwr i fyw yn y dref loches agosaf. Bydd rhaid iddo aros yno nes bydd yr archoffeiriad, gafodd ei eneinio gyda'r olew cysegredig, wedi marw.
26 Ond os ydy'r un sy'n cael ei gyhuddo o'r drosedd yn gadael y dref loches mae wedi dianc iddi,
27 a perthynas agosaf yr un gafodd ei lofruddio yn dial arno a'i ladd, fydd hynny ddim yn cael ei ystyried yn llofruddiaeth.
28 Dylai fod wedi aros yn y dref loches nes i'r archoffeiriad farw. Ar ôl i'r archoffeiriad farw, mae'n rhydd i fynd yn ôl adre.