27 a perthynas agosaf yr un gafodd ei lofruddio yn dial arno a'i ladd, fydd hynny ddim yn cael ei ystyried yn llofruddiaeth.
28 Dylai fod wedi aros yn y dref loches nes i'r archoffeiriad farw. Ar ôl i'r archoffeiriad farw, mae'n rhydd i fynd yn ôl adre.
29 “‘Dyma fydd y drefn gyfreithiol ar hyd y cenedlaethau, ble bynnag fyddwch chi'n byw.
30 Mae pob llofrudd i gael ei ddienyddio, ond rhaid bod tystion. Dydy un tyst ddim yn ddigon i rywun gael ei ddedfrydu i farwolaeth.
31 A rhaid peidio derbyn arian yn lle rhoi'r llofrudd i farwolaeth. Rhaid i bob llofrudd gael ei ddienyddio.
32 Rhaid peidio derbyn arian chwaith i ollwng rhywun sydd wedi dianc i dref loches yn rhydd, fel ei fod yn gallu mynd yn ôl adre i fyw cyn marwolaeth yr archoffeiriad.
33 Peidiwch llygru'r tir lle dych chi'n byw – mae llofruddiaeth yn llygru'r tir! A does dim byd yn gwneud iawn am lofruddiaeth ond dienyddio'r llofrudd.