4 Rhaid i'r tir pori o gwmpas y trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid ymestyn am tua 675 metr o wal y dre.
5 Mae ffin allanol y tir pori i fesur 1,350 metr ar bob ochr – gogledd, de, gorllewin a dwyrain – gyda'r dre yn y canol. Mae'r tir yma i fod yn dir pori i'r trefi.
6 “Bydd chwech o'r trefi fyddwch chi'n eu rhoi i'r Lefiaid yn drefi lloches, i rywun sydd wedi lladd person arall trwy ddamwain allu dianc yno. Rhaid i chi roi pedwar deg dwy o drefi eraill i'r Lefiaid –
7 pedwar deg wyth o drefi i gyd, gyda tir pori i bob un.
8 Rhaid i'r trefi dych chi'n eu rhoi fod yn drefi sydd piau pobl Israel. Bydd nifer y trefi mae pob llwyth yn ei gyfrannu yn dibynnu ar faint y llwyth. Bydd y llwythau mwyaf yn rhoi mwy o drefi, a'r llwythau lleiaf yn rhoi llai. Ond rhaid i bob llwyth gyfrannu rhai o'u trefi i'r Lefiaid.”
9 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
10 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi'n croesi'r Iorddonen i wlad Canaan