9 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
10 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan fyddwch chi'n croesi'r Iorddonen i wlad Canaan
11 rhaid i chi ddarparu rhai trefi yn drefi lloches. Bydd rhywun sydd wedi lladd person arall drwy ddamwain yn gallu dianc yno.
12 Bydd y trefi yma yn lle saff i ddianc rhag perthynas yr un gafodd ei ladd sydd am ddial. Ddylai'r lladdwr ddim cael ei ladd cyn sefyll ei brawf o flaen y bobl.
13 Rhaid darparu chwech tref loches –
14 tair yr ochr yma i'r Afon Iorddonen, a tair yn Canaan.
15 Bydd y chwe tref yma yn drefi lloches i bobl Israel, i bobl o'r tu allan ac i fewnfudwyr. Gall unrhyw un sy'n lladd person arall trwy ddamwain ddianc iddyn nhw.