1 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Gorchymyn bobl Israel i anfon allan o'r gwersyll unrhyw un sy'n dioddef o glefyd heintus ar y croen, neu glefyd ar ei bidyn, neu ddiferiad o unrhyw fath, neu rywun sy'n aflan am ei fod wedi cyffwrdd corff marw.
3 Dynion a merched fel ei gilydd – rhaid eu gyrru nhw allan fel bod y gwersyll, lle dw i'n byw yn eich canol chi, ddim yn cael ei wneud yn aflan.”
4 Felly dyma bobl Israel yn eu gyrru nhw allan o'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan mae dyn neu wraig yn gwneud drwg i rywun arall, mae'n euog o droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD.