11 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
12 “Dywed wrth bobl Israel: ‘Dyma sydd i ddigwydd os ydy gwraig rhywun yn anffyddlon iddo:
13 Cymrwch ei bod hi wedi cael rhyw gyda dyn arall heb yn wybod i'w gŵr. (Doedd neb arall wedi eu gweld nhw, a wnaethon nhw ddim cael eu dal yn y weithred).
14 Os ydy'r gŵr yn amau fod rhywbeth wedi digwydd, ac yn dechrau teimlo'n genfigennus (hyd yn oed os ydy'r wraig yn ddieuog),
15 rhaid i'r gŵr fynd â hi at yr offeiriad. Mae i gyflwyno cilogram o flawd haidd yn offrwm trosti. Ond rhaid iddo beidio tywallt olew olewydd ar y blawd, na rhoi thus arno am mai offrwm amheuaeth ydy e, er mwyn dod â'r drwg i'r amlwg.
16 “‘Bydd yr offeiriad yn gwneud i'r wraig sefyll o flaen yr ARGLWYDD.
17 Wedyn bydd yr offeiriad yn rhoi dŵr cysegredig mewn cwpan bridd, a rhoi llwch oddi ar lawr y Tabernacl yn y dŵr.