25 Bydd yr offeiriad yn cymryd grawn yr offrwm amheuaeth o ddwylo'r wraig, ei chwifio o flaen yr ARGLWYDD, a mynd ag e at yr allor.
26 Bydd yr offeiriad yn cymryd dyrnaid o'r offrwm i'w losgi yn ernes ar yr allor. Yna bydd yn gwneud i'r wraig yfed y dŵr.
27 “‘Os ydy'r wraig wedi gwneud ei hun yn aflan drwy fod yn anffyddlon i'w gŵr, bydd y dŵr yn gwneud iddi ddiodde'n chwerw. Bydd hi'n methu cael plant byth eto, a bydd ei henw'n felltith yng ngolwg y bobl.
28 Ond os ydy'r wraig yn ddieuog, a heb wneud ei hun yn aflan, fydd y dŵr yn gwneud dim niwed iddi, a bydd hi'n gallu cael plant eto.
29 “‘Felly, dyma sut mae delio gydag achos o eiddigedd, pan mae gwraig wedi bod yn anffyddlon i'w gŵr ac wedi gwneud ei hun yn aflan.
30 Neu pan mae gŵr yn amau ei wraig ac yn dechrau teimlo'n eiddigeddus. Rhaid iddo ddod â'i wraig i sefyll o flaen yr ARGLWYDD, a bydd yr offeiriad yn mynd trwy'r ddefod yma gyda hi.
31 Fydd y gŵr ddim yn euog o wneud unrhyw beth o'i le, ond bydd y wraig yn gyfrifol am ei phechod.’”