3 Dynion a merched fel ei gilydd – rhaid eu gyrru nhw allan fel bod y gwersyll, lle dw i'n byw yn eich canol chi, ddim yn cael ei wneud yn aflan.”
4 Felly dyma bobl Israel yn eu gyrru nhw allan o'r gwersyll, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.
5 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
6 “Dywed wrth bobl Israel, ‘Pan mae dyn neu wraig yn gwneud drwg i rywun arall, mae'n euog o droseddu yn erbyn yr ARGLWYDD.
7 Mae'n rhaid iddo gyfadde'r drwg mae wedi ei wneud, talu'r person arall yn ôl yn llawn ac ychwanegu 20% ato.
8 Ond os ydy'r person gafodd y drwg ei wneud iddo wedi marw a heb berthynas agos y gellid talu iddo, mae'r tâl i gael ei roi i'r ARGLWYDD. Mae i'w roi i'r offeiriad, gyda'r hwrdd mae'n ei gyflwyno i wneud pethau'n iawn rhyngddo â'r ARGLWYDD.
9 Yr offeiriad sy'n cael yr holl bethau cysegredig mae pobl Israel yn eu cyflwyno iddo.