1 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
2 “Dywed wrth bobl Israel: Pan mae dynion neu wragedd yn addo ar lw i fyw fel Nasaread, a chysegru ei hunain i'r ARGLWYDD,
3 rhaid iddyn nhw ymwrthod yn llwyr â gwin a diod feddwol. Rhaid iddyn nhw beidio yfed finegr wedi ei wneud o win, na hyd yn oed yfed sudd grawnwin. A rhaid iddyn nhw beidio bwyta grawnwin na rhesins.
4 Tra maen nhw wedi cysegru eu hunain, rhaid iddyn nhw beidio bwyta unrhyw beth sydd wedi tyfu ar y winwydden – dim hyd yn oed croen neu hadau'r grawnwin.
5 Rhaid iddyn nhw hefyd beidio torri eu gwalltiau yn y cyfnod yma, am eu bod wedi cysegru eu hunain i'r ARGLWYDD. Rhaid iddyn nhw adael i'w gwallt dyfu'n hir.
6 Rhaid iddyn nhw hefyd beidio mynd yn agos at gorff marw tra maen nhw wedi cysegru eu hunain i'r ARGLWYDD