14 a cyflwyno'r offrymau canlynol i'r ARGLWYDD: oen gwryw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm i'w losgi'n llwyr, oen banw blwydd oed sydd â dim byd o'i le arno yn offrwm puro, ac un hwrdd sydd â ddim byd o'i le arno yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
15 Hefyd basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a bisgedi tenau wedi eu brwsio gydag olew olewydd, a'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw.
16 Bydd yr offeiriad yn cyflwyno'r rhain i gyd i'r ARGLWYDD – sef yr offrwm puro a'r offrwm i'w losgi'n llwyr.
17 Yna'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gyda'r fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwyno'r offrymau o rawn a diod.
18 “Ar ôl hynny rhaid i'r Nasaread siafio ei ben wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, a'i roi ar y tân lle mae'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD yn llosgi.
19 Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i'r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi ei ferwi, un o'r cacennau ac un o'r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a'u rhoi nhw i gyd yn nwylo y Nasaread.
20 Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto.