15 Hefyd basged o fara heb furum ynddo, cacennau o flawd mân wedi ei gymysgu gydag olew olewydd, a bisgedi tenau wedi eu brwsio gydag olew olewydd, a'r offrymau o rawn a diod sydd i fynd gyda nhw.
16 Bydd yr offeiriad yn cyflwyno'r rhain i gyd i'r ARGLWYDD – sef yr offrwm puro a'r offrwm i'w losgi'n llwyr.
17 Yna'r hwrdd yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD, gyda'r fasged o fara heb furum ynddo. A rhaid iddo hefyd gyflwyno'r offrymau o rawn a diod.
18 “Ar ôl hynny rhaid i'r Nasaread siafio ei ben wrth y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw. Yna cymryd ei wallt, a'i roi ar y tân lle mae'r offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD yn llosgi.
19 Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i'r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi ei ferwi, un o'r cacennau ac un o'r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a'u rhoi nhw i gyd yn nwylo y Nasaread.
20 Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto.
21 Dyma ddefod y Nasareaid. Dyma ei offrwm i'r ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wedi ei addo i'r ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wedi ei addo pan oedd yn mynd trwy'r ddefod o gysegru ei hun.”