19 Ar ôl i ben y Nasaread gael ei siafio, rhaid i'r offeiriad gymryd ysgwydd yr hwrdd wedi ei ferwi, un o'r cacennau ac un o'r bisgedi tenau sydd heb furum ynddyn nhw, a'u rhoi nhw i gyd yn nwylo y Nasaread.
20 Wedyn mae'r offeiriad i'w chwifio nhw o flaen yr ARGLWYDD. Mae'r darnau yma'n cael eu cysegru a'u rhoi i'r offeiriad, gyda'r frest a rhan uchaf y goes ôl sy'n cael ei chwifio. Ar ôl mynd trwy'r ddefod yma bydd y Nasaread yn cael yfed gwin eto.
21 Dyma ddefod y Nasareaid. Dyma ei offrwm i'r ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wedi ei addo i'r ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wedi ei addo pan oedd yn mynd trwy'r ddefod o gysegru ei hun.”
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
23 “Dywed wrth Aaron a'i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel:
24 ‘Boed i'r ARGLWYDD eich bendithio chia'ch amddiffyn chi.
25 Boed i'r ARGLWYDD wenu'n garedig arnoch chi,a bod yn hael tuag atoch chi.