21 Dyma ddefod y Nasareaid. Dyma ei offrwm i'r ARGLWYDD ar ôl cysegru ei hun, heb sôn am unrhyw beth arall mae wedi ei addo i'r ARGLWYDD. Rhaid iddo wneud beth bynnag roedd wedi ei addo pan oedd yn mynd trwy'r ddefod o gysegru ei hun.”
22 Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
23 “Dywed wrth Aaron a'i feibion mai dyma sut maen nhw i fendithio pobl Israel:
24 ‘Boed i'r ARGLWYDD eich bendithio chia'ch amddiffyn chi.
25 Boed i'r ARGLWYDD wenu'n garedig arnoch chi,a bod yn hael tuag atoch chi.
26 Boed i'r ARGLWYDD fod yn dda atoch chi,a rhoi heddwch i chi.’
27 Bydda i'n bendithio pobl Israel wrth i Aaron a'i feibion wneud hyn ar fy rhan i.”