7 – hyd yn oed os ydy tad, mam, brawd neu chwaer un ohonyn nhw yn marw. Mae'r arwydd fod y person hwnnw wedi cysegru ei hun i'r ARGLWYDD ar ei ben.
8 Maen nhw i gysegru eu hunain yn llwyr i'r ARGLWYDD drwy gydol y cyfnod yma.
9 “Os ydy rhywun yn syrthio'n farw wrth ymyl un ohonyn nhw, ac yn achosi i'w ben gael ei lygru, rhaid aros saith diwrnod, ac yna siafio'r pen ar ddiwrnod y puro.
10 Yna'r diwrnod wedyn mynd â dwy durtur neu ddwy golomen at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw, i'w rhoi i'r offeiriad.
11 Bydd yr offeiriad yn eu cyflwyno nhw – un yn offrwm puro a'r llall yn offrwm i'w losgi. Bydd yr offeiriad yn gwneud pethau'n iawn rhyngddo â Duw ar ôl i'r corff marw ei wneud yn euog. Wedyn bydd yn ailgysegru ei hun y diwrnod hwnnw.
12 Bydd rhaid iddo ddechrau o'r dechrau, a chyflwyno oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gyfaddef bai. Fydd y dyddiau oedd wedi eu cyflawni cyn i'r person gael ei wneud yn aflan gan y corff marw ddim yn cyfrif.
13 “Dyma'r ddefod ar gyfer Nasareaid: Ar ddiwedd y cyfnod pan oedden nhw wedi cysegru ei hunain, rhaid mynd â nhw at fynedfa Pabell Presenoldeb Duw,