1 Ar y diwrnod pan oedd Moses wedi gorffen codi'r Tabernacl, dyma fe'n eneinio a chysegru'r cwbl – y Tabernacl ei hun a'r holl ddodrefn ynddo, a'r allor a'i holl offer.
2 Yna dyma arweinwyr Israel yn dod i wneud offrwm (Nhw oedd yr arweinwyr oedd wedi bod yn goruchwylio'r cyfrifiad.)
3 Dyma nhw'n dod â chwe wagen gyda tho, a deuddeg ychen – sef un wagen ar gyfer dau arweinydd, a tharw bob un. A dyma nhw'n eu cyflwyno nhw i'r ARGLWYDD o flaen y Tabernacl.
4 A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:
5 “Derbyn yr ychen a'r wagenni yma ganddyn nhw, i'w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i'w wneud.”