Numeri 7:12-83 BNET

12-83 Dyma pwy wnaeth gyflwyno eu hoffrwm, ac ar ba ddiwrnod:Diwrnod Llwyth Arweinydd 1af Jwda Nachshon fab Aminadab 2il Issachar Nethanel fab Tswár 3ydd Sabulon Eliab fab Chelon 4ydd Reuben Elisur fab Shedeŵr 5ed Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 6ed Gad Eliasaff fab Dewel 7fed Effraim Elishama fab Amihwd 8fed Manasse Gamaliel fab Pedatswr 9fed Benjamin Abidan fab Gideoni 10fed Dan Achieser fab Amishadai 11eg Asher Pagiel fab Ochran 12fed Nafftali Achira fab Enan Roedd offrwm pawb yr un fath: Plât arian yn pwyso cilogram a hanner a powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram. Roedd y ddau yn llawn o'r blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd i'w gyflwyno fel offrwm o rawn. Padell aur yn pwyso can gram. Roedd hon yn llawn arogldarth. Un tarw ifanc, un hwrdd, ac un oen gwryw blwydd oed, yn offrwm i'w losgi'n llwyr. Un bwch gafr yn offrwm puro. A dau ychen, pum hwrdd, pum bwch gafr, a pum oen gwryw blwydd oed yn offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 7

Gweld Numeri 7:12-83 mewn cyd-destun