5 “Derbyn yr ychen a'r wagenni yma ganddyn nhw, i'w defnyddio yng ngwaith y Tabernacl. Rhanna nhw rhwng y Lefiaid, iddyn nhw allu gwneud y gwaith sydd gan bob un i'w wneud.”
6 Felly dyma Moses yn derbyn y wagenni a'r ychen, a'u rhoi nhw i'r Lefiaid.
7 Dwy wagen a pedwar ychen i'r Gershoniaid, i wneud eu gwaith.
8 Dwy wagen a pedwar ychen i'r Merariaid, i wneud eu gwaith nhw, gyda Ithamar fab Aaron yr offeiriad yn eu goruchwylio.
9 Ond gafodd y Cohathiaid ddim wagenni nac ychen. Roedden nhw i fod i gario pethau cysegredig y Tabernacl ar eu hysgwyddau.
10 Cyflwynodd yr arweinwyr roddion pan gafodd yr allor ei heneinio a'i chysegru hefyd. Dyma nhw i gyd yn gosod eu rhoddion o flaen yr allor.
11 Achos roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses, “Rhaid i bob arweinydd gyflwyno offrwm ar gyfer cysegru'r allor. Mae pob un ohonyn nhw i wneud hynny ar ddiwrnod gwahanol.”