13 Ond os oes rhywun, sydd ddim yn aflan nac i ffwrdd ar daith, yn peidio dathlu'r Pasg, rhaid i'r person hwnnw gael ei dorri allan o blith pobl Dduw. Rhaid iddo wynebu canlyniadau ei bechod, am beidio dod ag offrwm i'r ARGLWYDD ar yr amser iawn.
14 Os ydy'r mewnfudwyr sy'n byw gyda chi eisiau dathlu'r Pasg i'r ARGLWYDD, rhaid iddyn nhw gadw'r un rheolau a'r un drefn. Mae'r un rheolau yn berthnasol i frodorion a mewnfudwyr.’”
15 Y diwrnod pan gafodd y Tabernacl ei godi, dyma gwmwl yn ei orchuddio – sef pabell y dystiolaeth. Yna gyda'r nos tan y bore wedyn roedd yn edrych fel petai tân uwch ben y Tabernacl.
16 A dyna sut oedd pethau drwy'r adeg. Roedd y cwmwl oedd yn ei orchuddio drwy'r dydd yn troi i edrych fel tân yn y nos.
17 Pan oedd y cwmwl yn codi oddi ar y babell roedd pobl Israel yn cychwyn ar eu taith. Yna ble bynnag roedd y cwmwl yn setlo byddai pobl Israel yn codi eu gwersyll.
18 Felly, yr ARGLWYDD oedd yn dangos i bobl Israel pryd i symud a ble i stopio. Bydden nhw'n dal i wersylla yn yr un fan tra byddai'r cwmwl yn aros dros y Tabernacl.
19 Weithiau roedd y cwmwl yn aros dros y Tabernacl am amser hir, a fyddai pobl Israel ddim yn symud y gwersyll nes roedd yr ARGLWYDD yn dweud.