1 Yr oedd Jefftha, brodor o Gilead, yn ŵr dewr; yr oedd yn fab i butain, a Gilead oedd ei dad.
2 Yr oedd gan wraig Gilead hefyd feibion, ac wedi iddynt dyfu, gyrasant Jefftha allan a dweud wrtho, “Ni chei di etifeddiaeth yn nhŷ ein tad, oherwydd mab i wraig estron wyt ti.”
3 Ciliodd Jefftha oddi wrth ei frodyr, a mynd i fyw i wlad Tob, lle casglodd ato nifer o wŷr ofer a oedd yn ei ddilyn.
4 Ymhen amser aeth yr Ammoniaid i ryfela yn erbyn yr Israeliaid.
5 A phan ddechreuodd y brwydro rhwng yr Ammoniaid ac Israel, aeth henuriaid Gilead i gyrchu Jefftha o wlad Tob,
6 a dweud wrtho, “Tyrd, bydd di'n arweinydd inni, er mwyn inni ymladd â'r Ammoniaid.”
7 Ond dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Onid chwi oedd yn fy nghasáu ac yn fy ngyrru o dŷ fy nhad? Pam y dewch ataf fi yn awr pan yw'n gyfyng arnoch?”
8 Ac meddent hwythau wrtho, “Dyna pam y daethom atat yn awr. Tyrd yn ôl gyda ni ac ymladd â'r Ammoniaid, a chei fod yn ben ar holl drigolion Gilead.”
9 Dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Os byddwch yn fy nghymryd yn ôl i ymladd â'r Ammoniaid, a'r ARGLWYDD yn eu rhoi yn fy llaw, yna byddaf yn ben arnoch.”
10 Dywedodd henuriaid Gilead wrth Jefftha, “Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom y gwnawn yn ôl dy air.”
11 Aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y fyddin ef yn ben ac yn arweinydd arnynt, ac adroddodd Jefftha gerbron yr ARGLWYDD yn Mispa bopeth yr oedd wedi ei gytuno.
12 Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid a dweud, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, dy fod wedi dod i ymosod ar fy ngwlad?”
13 Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, “Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n ôl yn awr yn heddychol.”
14 Anfonodd Jefftha negeswyr eto at frenin yr Ammoniaid
15 i ddweud wrtho, “Dyma a ddywed Jefftha: ‘Ni chymerodd Israel dir Moab na thir yr Ammoniaid;
16 oherwydd pan ddaethant i fyny o'r Aifft, fe aeth Israel trwy'r anialwch hyd at y Môr Coch nes dod i Cades.
17 Yna fe anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom a dweud, “Gad imi fynd trwy dy dir di”; ond ni wrandawai brenin Edom. Wedyn anfonwyd at frenin Moab, ac nid oedd ef yn fodlon; felly arhosodd Israel yn Cades.
18 Yna aethant drwy'r anialwch i fynd heibio i dir Edom a thir Moab o'r tu dwyrain i wlad Moab, a gwersyllu y tu hwnt i nant Arnon, heb groesi terfyn Moab, oherwydd nant Arnon yw terfyn Moab.
19 Anfonodd Israel negeswyr hefyd at frenin yr Amoriaid, Sihon brenin Hesbon, a dweud wrtho, “Gad imi groesi dy dir i'm lle fy hun.”
20 Eto nid ymddiriedai Sihon yn Israel, iddi groesi ei ffin, ond casglodd ei holl fyddin a gwersyllu yn Jahas ac ymladd yn erbyn Israel.
21 Rhoddodd yr ARGLWYDD, Duw Israel, Sihon a'i holl fyddin yn llaw Israel, ac fe'u lladdwyd; a meddiannodd Israel holl dir yr Amoriaid oedd yn byw yn yr ardal honno.
22 Daethant i feddiannu holl derfynau'r Amoriaid o nant Arnon hyd nant Jabboc, ac o'r anialwch hyd yr Iorddonen.
23 Yr ARGLWYDD, Duw Israel, a yrrodd yr Amoriaid allan o flaen ei bobl Israel. A wyt ti'n awr am ei feddiannu?
24 Onid yr hyn y bydd dy dduw Cemos yn ei roi'n feddiant iti yr wyt ti i'w feddiannu? Yn yr un modd meddiannwn ninnau'r cyfan y bydd yr ARGLWYDD ein Duw yn ei roi'n feddiant i ninnau.
25 Ac yn awr, a wyt ti rywfaint gwell na Balac fab Sippor, brenin Moab? A fu ef yn ymryson o gwbl ag Israel, neu'n ymladd erioed yn eu herbyn?
26 Bu Israel yn byw yn Hesbon ac Aroer a'u maestrefi, ac yn yr holl drefi sydd ar lannau'r afon, am dri chan mlynedd; pam na fyddech wedi eu hadennill yn ystod y cyfnod hwnnw?
27 Nid myfi sydd wedi pechu yn d'erbyn, ond ti sy'n gwneud cam â mi wrth ddod i ryfela yn f'erbyn. Y mae'r ARGLWYDD yn farnwr; barned ef heddiw rhwng Israel a'r Ammoniaid.’ ”
28 Ond ni wrandawodd brenin yr Ammoniaid ar y neges a anfonodd Jefftha ato.
29 Daeth ysbryd yr ARGLWYDD ar Jefftha, ac aeth trwy Gilead a Manasse a thrwy Mispe Gilead, ac oddi yno drosodd at yr Ammoniaid.
30 A gwnaeth Jefftha adduned i'r ARGLWYDD a dweud, “Os rhoi di'r Ammoniaid yn fy llaw,
31 beth bynnag a ddaw allan o ddrws fy nhŷ i'm cyfarfod wrth imi ddychwelyd yn ddiogel oddi wrth yr Ammoniaid, bydd yn eiddo i'r ARGLWYDD, ac offrymaf ef yn boethoffrwm.”
32 A phan aeth Jefftha i frwydro yn erbyn yr Ammoniaid, fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw Jefftha,
33 a goresgynnodd hwy'n llwyr, o Aroer hyd gyffiniau Minnith—ugain tref, gan gynnwys Abel-ceramim; felly darostyngwyd yr Ammoniaid gan yr Israeliaid.
34 Pan gyrhaeddodd Jefftha ei gartref yn Mispa, daeth ei ferch allan i'w gyfarfod â thympanau a dawnsiau. Hi oedd ei unig blentyn; nid oedd ganddo fab na merch ar wahân iddi hi.
35 A phan welodd ef hi, rhwygodd ei wisg, a dweud, “Gwae fi, fy merch! Yr wyt ti wedi fy nryllio'n llwyr, a thi yw achos fy nhrallod. Gwneuthum addewid i'r ARGLWYDD, ac ni allaf ei thorri.”
36 Ac meddai hithau wrtho, “Fy nhad, yr wyt wedi gwneud addewid i'r ARGLWYDD; gwna imi fel yr addewaist, wedi i'r ARGLWYDD sicrhau iti ddialedd ar dy elynion, yr Ammoniaid.”
37 Ychwanegodd, “Caniatâ un peth i mi; rho imi ysbaid o ddeufis i grwydro'r mynyddoedd ac i wylo am fy morwyndod gyda'm ffrindiau.”
38 Dywedodd yntau, “Ie, dos.” Gadawodd iddi fynd am ddeufis; ac aeth hithau a'i ffrindiau i wylo am ei morwyndod ar y mynyddoedd.
39 Ar derfyn y deufis, daeth yn ôl at ei thad, a gwnaeth yntau iddi yn ôl yr adduned a dyngodd. Nid oedd hi wedi cael cyfathrach â gŵr. A daeth hyn yn ddefod yn Israel,
40 bod merched Israel yn mynd allan bob blwyddyn i alaru am ferch Jefftha o Gilead am bedwar diwrnod yn y flwyddyn.