Barnwyr 13 BCN

Genedigaeth Samson

1 Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd.

2 Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn.

3 Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, “Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab.

4 Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid â bwyta dim aflan,

5 gan dy fod yn mynd i feichiogi a geni mab; ac nid yw ellyn i gyffwrdd â'i ben, oherwydd y mae'r bachgen i fod yn Nasaread i Dduw o'r groth. Ef fydd yn dechrau gwaredu Israel o law'r Philistiaid.”

6 Aeth y wraig at ei gŵr a dweud, “Daeth gŵr Duw ataf, a'i wedd fel angel Duw, yn frawychus iawn; ni ofynnais iddo o ble'r oedd, ac ni ddywedodd ei enw wrthyf.

7 Fe ddywedodd wrthyf, ‘Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.’ ”

8 Gweddïodd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gŵr Duw a anfonaist ddod yn ôl atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir.”

9 Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gŵr Manoa heb fod gyda hi.

10 Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gŵr, “Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto.”

11 Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, “Ai ti yw'r gŵr a fu'n siarad gyda'm gwraig?” Ac meddai yntau, “Ie.”

12 Gofynnodd Manoa iddo, “Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?”

13 Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, “Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi;

14 nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan.

15 Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi.” Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer.”

16 Ond atebodd angel yr ARGLWYDD ef, “Pe bait yn fy nghadw yma, ni fyddwn yn bwyta dy fwyd, ond os wyt am offrymu poethoffrwm, offryma ef i'r ARGLWYDD.” Ni wyddai Manoa mai angel yr ARGLWYDD ydoedd,

17 a gofynnodd iddo, “Beth yw d'enw, inni gael dy anrhydeddu pan wireddir dy air?”

18 Atebodd angel yr ARGLWYDD, “Pam yr wyt ti'n holi fel hyn ynghylch fy enw? Y mae'n rhyfeddol!”

19 Yna cymerodd Manoa'r myn gafr a'r bwydoffrwm, a'u hoffrymu i'r ARGLWYDD ar y graig, a digwyddodd rhyfeddod tra oedd Manoa a'i wraig yn edrych.

20 Fel yr oedd y fflam yn codi oddi ar yr allor i'r awyr, esgynnodd angel yr ARGLWYDD yn fflam yr allor. Yr oedd Manoa a'i wraig yn edrych, a syrthiasant ar eu hwynebau ar lawr.

21 Nid ymddangosodd angel yr ARGLWYDD iddynt mwyach, a sylweddolodd Manoa mai angel yr ARGLWYDD oedd.

22 Yna dywedodd Manoa wrth ei wraig, “Yr ydym yn sicr o farw am inni weld Duw.”

23 Ond meddai hi wrtho, “Pe byddai'r ARGLWYDD wedi dymuno ein lladd, ni fyddai wedi derbyn poethoffrwm a bwydoffrwm o'n llaw, na dangos yr holl bethau hyn i ni, na pheri inni glywed pethau fel hyn yn awr.”

24 Wedi i'r wraig eni mab, galwodd ef Samson; tyfodd y bachgen dan fendith yr ARGLWYDD,

25 a dechreuodd ysbryd yr ARGLWYDD ei gynhyrfu yn Mahane-dan, rhwng Sora ac Estaol.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21