Barnwyr 15 BCN

1 Ymhen amser, ar adeg y cynhaeaf gwenith, ymwelodd Samson â'i wraig gyda myn gafr, a dweud, “Yr wyf am gael mynd at fy ngwraig i'r siambr.” Ond ni chaniataodd ei thad iddo fynd,

2 a dywedodd wrtho, “Yr oeddwn yn meddwl yn sicr ei bod hi'n llwyr atgas gennyt; felly rhoddais hi i'th was priodas. Y mae ei chwaer iau yn dlysach na hi; cymer hi yn ei lle.”

3 Ond dywedodd Samson wrthynt, “Y tro hwn fe dalaf y pwyth i'r Philistiaid; fe achosaf niwed difrifol iddynt.”

4 Aeth Samson a dal tri chant o lwynogod; ac wedi iddo gael ffaglau, fe'u clymodd hwy gynffon wrth gynffon, a gosod ffagl yn y canol rhwng y ddwy gynffon.

5 Yna wedi iddo gynnau'r ffaglau, gyrrodd hwy drwy gnydau'r Philistiaid, a llosgi'r styciau a'r ŷd oedd heb ei dorri a'r gerddi olewydd.

6 Pan ofynnodd y Philistiaid pwy oedd wedi gwneud hyn, dywedwyd, “Samson, mab-yng-nghyfraith y dyn o Timna, am fod hwnnw wedi cymryd ei wraig ef a'i rhoi i'w was priodas.”

7 Aeth y Philistiaid a'i llosgi hi a'i thad; a dywedodd Samson, “Os ydych chwi'n ymddwyn fel hyn, nid ymataliaf finnau nes dial arnoch.”

8 Trawodd hwy'n bendramwnwgl â difrod mawr, cyn mynd ymaith ac aros mewn hafn yng nghraig Etam.

Samson yn Gorchfygu'r Philistiaid

9 Daeth y Philistiaid i fyny a gwersyllu yn Jwda, ac ymledu trwy Lehi.

10 Gofynnodd gwŷr Jwda, “Pam y daethoch yn ein herbyn?” Ac meddent, “Daethom i ddal Samson, a gwneud iddo ef fel y gwnaeth ef i ni.”

11 Yna aeth tair mil o wŷr o Jwda i hafn craig Etam a dweud wrth Samson, “Fe wyddost yn iawn mai'r Philistiaid sy'n ein llywodraethu; beth yw hyn a wnaethost inni?” Atebodd yntau, “Gwneuthum iddynt hwy fel y gwnaethant hwy i mi.”

12 Yna dywedasant, “Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid.” Dywedodd Samson wrthynt, “Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi.”

13 Dywedodd y gwŷr, “Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd.” Yna rhwymasant ef â dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig.

14 Pan gyrhaeddodd Lehi, a'r Philistiaid yn bloeddio wrth ei gyfarfod, disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth y rhaffau oedd am ei freichiau fel llinyn wedi ei ddeifio gan dân, a syrthiodd ei rwymau oddi am ei ddwylo.

15 Cafodd ên asyn, a honno heb sychu; gafaelodd ynddi â'i law, a lladd mil o ddynion.

16 Ac meddai Samson:“Â gên asyn rhois iddynt gurfa asyn;â gên asyn lleddais fil o ddynion.”

17 Wedi iddo orffen dweud hyn, taflodd yr ên o'i law, a galwyd y lle hwnnw Ramath-lehi.

18 Yr oedd syched mawr arno, a galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Ti a roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i'th was, ond a wyf yn awr i drengi o syched, a syrthio i afael y rhai dienwaededig?”

19 Holltodd Duw y ceubwll sydd yn Lehi, a ffrydiodd dŵr ohono; wedi iddo yfed, adferwyd ei ysbryd ac adfywiodd. Am hynny enwodd y ffynnon En-haccore; y mae yn Lehi hyd heddiw.

20 Bu Samson yn farnwr ar Israel am ugain mlynedd yng nghyfnod y Philistiaid.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21