Barnwyr 14 BCN

Samson yn Priodi Merch o Timna

1 Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid.

2 Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, “Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi.”

3 Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, “Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?” Ond dywedodd Samson wrth ei dad, “Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd.”

4 Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.

5 Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo.

6 Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth.

7 Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd.

8 Pan ddychwelodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a mêl y tu mewn i'r corff.

9 Cymerodd beth o'r mêl yn ei law, ac aeth yn ei flaen dan fwyta, nes dod at ei dad a'i fam; rhoddodd beth hefyd iddynt hwy i'w fwyta, heb ddweud wrthynt mai o gorff y llew y daeth y mêl.

10 Aeth ei dad i lawr at y ferch, a gwnaeth Samson wledd yno yn ôl arfer y gwŷr ifainc.

11 Pan welsant ef, dewiswyd deg ar hugain o gyfeillion i gadw cwmni iddo.

12 Ac meddai Samson wrthynt, “Yr wyf am osod pos i chwi; os llwyddwch i'w ateb yn gywir yn ystod saith diwrnod y wledd, rhof i chwi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.

13 Ond os methwch roi'r ateb imi, rhaid i chwi roi i mi ddeg darn ar hugain o frethyn a deg siwt ar hugain o ddillad.”

14 Dywedasant wrtho, “Mynega dy bos, inni ei glywed.” A dywedodd wrthynt:“O'r bwytawr fe ddaeth bwyd,ac o'r cryf fe ddaeth melystra.”Am dridiau buont yn methu ateb y pos.

15 Ar y pedwerydd dydd dywedasant wrth wraig Samson, “Huda dy ŵr i ddatgelu'r pos inni, neu fe'th losgwn di a'th deulu. Ai er mwyn ein tlodi y rhoesoch wahoddiad inni yma?”

16 Aeth gwraig Samson ato yn ei dagrau a dweud, “Fy nghasáu yr wyt ti, nid fy ngharu; rwyt wedi gosod pos i lanciau fy mhobl heb ei egluro i mi.” Ac meddai yntau, “Nid wyf wedi ei egluro i'm tad a'm mam; pam yr eglurwn ef i ti?”

17 Bu'n wylo wrtho trwy gydol y saith diwrnod y cynhaliwyd y wledd, ac ar y seithfed dydd fe'i heglurodd iddi, am ei bod wedi ei flino. Eglurodd hithau'r pos i lanciau ei phobl.

18 A dywedodd dynion y dref wrtho ar y seithfed diwrnod, cyn i'r haul fachlud:“Beth sy'n felysach na mêl,a beth sy'n gryfach na llew?”Dywedodd yntau wrthynt:“Oni bai i chwi aredig â'm heffer,ni fyddech wedi datrys fy mhos.”

19 Yna disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth i lawr i Ascalon a lladdodd ddeg ar hugain o ddynion. Cymerodd eu gwisgoedd a rhoi'r siwtiau i'r rhai a atebodd y pos, ond yr oedd wedi digio'n enbyd ac aeth yn ei ôl adref.

20 Rhoddwyd gwraig Samson i'w gyfaill, a fu'n was priodas iddo.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21