1 Aeth angel yr ARGLWYDD i fyny o Gilgal i Bochim, a dywedodd, “Dygais chwi allan o'r Aifft, a dod â chwi i'r wlad a addewais i'ch hynafiaid. Dywedais hefyd, ‘Ni thorraf fy nghyfamod â chwi byth;
2 peidiwch chwithau â gwneud cyfamod â thrigolion y wlad hon, ond bwriwch i lawr eu hallorau.’ Eto nid ydych wedi gwrando arnaf. Pam y gwnaethoch hyn?
3 Yr wyf wedi penderfynu na yrraf hwy allan o'ch blaen, ond byddant yn ddrain yn eich ystlysau, a'u duwiau yn fagl ichwi.”
4 Pan lefarodd angel yr ARGLWYDD y geiriau hyn wrth yr holl Israeliaid, torrodd y bobl allan i wylo'n uchel.
5 Am hynny enwyd y lle hwnnw Bochim; ac offrymasant yno aberth i'r ARGLWYDD.
6 Gollyngodd Josua y bobl ac aeth pob un o'r Israeliaid i'w etifeddiaeth i gymryd meddiant o'r wlad.
7 Addolodd y bobl yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid oedd wedi goroesi Josua ac wedi gweld yr holl waith mawr a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.
8 Bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed,
9 a chladdwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-heres ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas.
10 Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu hôl, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel.
11 Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; aethant i addoli'r Baalim,
12 gan adael yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a'u dygodd allan o wlad yr Aifft, a mynd ar ôl duwiau estron o blith duwiau'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, ac ymgrymu iddynt hwy, a digio'r ARGLWYDD.
13 Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth.
14 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion.
15 I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt.
16 Yna fe gododd yr ARGLWYDD farnwyr a'u hachubodd o law eu hanrheithwyr.
17 Eto nid oeddent yn gwrando hyd yn oed ar eu barnwyr, ond yn hytrach yn puteinio ar ôl duwiau estron ac yn ymgrymu iddynt, gan gefnu'n fuan ar y ffordd a gerddodd eu hynafiaid mewn ufudd-dod i orchmynion yr ARGLWYDD; ni wnaent hwy felly.
18 Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr.
19 Eto, pan fyddai farw'r barnwr, yn ôl yr aent ac ymddwyn yn fwy llygredig na'u hynafiaid, gan fynd ar ôl duwiau estron i'w haddoli ac ymgrymu iddynt, heb roi heibio yr un o'u harferion na'u ffyrdd gwrthnysig.
20 Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a dywedodd, “Am i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w hynafiaid, heb wrando ar fy llais,
21 nid wyf finnau am ddisodli o'u blaen yr un o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw.”
22 Gadawyd hwy i brofi'r Israeliaid, i weld a fyddent yn cadw ffordd yr ARGLWYDD ai peidio, ac yn rhodio ynddi fel y gwnaeth eu hynafiaid.
23 Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn heb eu disodli ar unwaith, na'u rhoi yn llaw Josua.