1 Yr oedd dyn o fynydd-dir Effraim o'r enw Mica.
2 Dywedodd wrth ei fam, “Ynglŷn â'r un cant ar ddeg o ddarnau arian a ddygwyd oddi arnat, ac y clywais di'n cyhoeddi melltith arnynt—dyma'r arian gennyf fi; myfi a'u cymerodd.” Ac meddai ei fam, “Bendith yr ARGLWYDD fo ar fy mab!”
3 Rhoddodd yr un cant ar ddeg o ddarnau arian yn ôl i'w fam; a dywedodd hithau, “Yr wyf am lwyr gysegru'r arian hwn i'r ARGLWYDD, a'i roi i'm mab i wneud cerfddelw a delw dawdd; felly dyma fi'n ei roi yn ôl iti.”
4 Ond dychwelodd ef yr arian i'w fam, ac yna cymerodd hi ddau gant o'r darnau a'u rhoi i'r eurych, a gwnaeth yntau gerfddelw a delw dawdd i fod yn nhŷ Mica.
5 Yr oedd gan y dyn hwn, Mica, gysegr, a gwnaeth effod a teraffim, ac urddo un o'i feibion i fod yn offeiriad iddo.
6 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel; yr oedd pob un yn gwneud yr hyn oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.
7 Yr oedd llanc o Lefiad o Fethlehem Jwda yn crwydro ymysg tylwyth Jwda,
8 ac wedi iddo adael tref Bethlehem Jwda i fyw ymhle bynnag y câi le, digwyddodd ddod ar ei daith i fynydd-dir Effraim ac i dŷ Mica.
9 Gofynnodd Mica iddo, “O ble'r wyt ti'n dod?” Atebodd yntau, “Lefiad wyf fi o Fethlehem Jwda, ac rwyf am aros ymhle bynnag y caf le.”
10 Ac meddai Mica wrtho, “Aros gyda mi, a bydd yn dad ac yn offeiriad i mi. Rhoddaf finnau iti ddeg darn arian y flwyddyn, dy ddillad a'th fwyd.”
11 Cytunodd y llanc o Lefiad i fyw gyda'r dyn, a bu fel un o'i feibion.
12 Urddodd Mica y Lefiad ifanc, a bu'n offeiriad iddo ac yn aros yn nhŷ Mica.
13 A dywedodd Mica, “Gwn yn awr y bydd yr ARGLWYDD yn fy llwyddo, oherwydd daeth y Lefiad yn offeiriad imi.”