Barnwyr 5 BCN

Cân Debora a Barac

1 Y diwrnod hwnnw canodd Debora a Barac fab Abinoam fel hyn:

2 “Am i'r arweinwyr roi arweiniad yn Israel,am i'r bobl ymroi o'u gwirfodd,bendithiwch yr ARGLWYDD.

3 Clywch, frenhinoedd! Gwrandewch, dywysogion!Canaf finnau i'r ARGLWYDD,a moliannu ARGLWYDD Dduw Israel.

4 “O ARGLWYDD, pan aethost allan o Seir,ac ymdeithio o Faes Edom,fe grynodd y ddaear, glawiodd y nefoedd,ac yr oedd y cymylau hefyd yn diferu dŵr.

5 Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai,o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.

6 “Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau;aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.

7 Darfu am drigolion pentrefi,darfu amdanynt yn Israelnes i mi, Debora, gyfodi,nes i mi godi yn fam yn Israel.

8 Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.

9 Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10 “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

11 Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.

12 “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!

13 “Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion,do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.

14 Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn,a gweiddi, ‘Ar dy ôl di, Benjamin, gyda'th geraint!’Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir;ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.

15 Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora;bu Issachar yn ffyddlon i Barac,yn rhuthro i'r dyffryn ar ei ôl.Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

16 Pam yr arhosaist rhwng y corlannaui wrando ar chwiban bugeiliaid?Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

17 Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen;a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau?Arhosodd Aser ar lan y môr,ac oedi gerllaw ei gilfachau.

18 Pobl a fentrodd eu heinioes hyd angau oedd Sabulona Nafftali hefyd, ar uchelfannau maes y gad.

19 “Daeth brenhinoedd ac ymladd;fe ymladdodd brenhinoedd Canaanyn Taanach ger dyfroedd Megido,ond heb gymryd ysbail o arian.

20 O'r nef ymladdodd y sêr,ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.

21 ‘Ysgubodd nant Cison hwy ymaith,cododd llif nant Cison yn eu herbyn.Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.

22 Yna'r oedd carnau'r ceffylau'n diasbedaingan garlam gwyllt eu meirch cryfion.’

23 “ ‘Melltigwch Meros,’ medd angel yr ARGLWYDD,‘melltigwch yn llwyr ei thrigolion,am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD,i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.’

24 Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead;bendithier hi uwch gwragedd y babell.

25 Am ddŵr y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth;mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.

26 Estynnodd ei llaw at yr hoelen,a'i deheulaw at ordd y llafurwyr;yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben,fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.

27 Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd;rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd;lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.

28 “Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestra llefain trwy'r dellt:‘Pam y mae ei gerbyd yn oedi?Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?’

29 Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau,ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,

30 ‘Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu—llances neu ddwy i bob un o'r dynion,ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw,darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?’

31 “Felly bydded i'th holl elynion ddarfod, O ARGLWYDD,ond bydded y rhai sy'n dy garu fel yr haul yn codi yn ei rym.”Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21