Barnwyr 4 BCN

Debora a Barac

1 Ar ôl i Ehud farw, gwnaeth yr Israeliaid unwaith eto yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

2 Felly gwerthodd yr ARGLWYDD hwy i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn teyrnasu yn Hasor. Capten ei fyddin oedd Sisera, a oedd yn byw yn Haroseth y Cenhedloedd.

3 Yr oedd ganddo naw cant o gerbydau haearn, a bu'n gorthrymu'r Israeliaid yn galed am ugain mlynedd; am hynny gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.

4 Proffwydes o'r enw Debora gwraig Lappidoth oedd yn barnu Israel yr adeg honno.

5 Byddai'n eistedd dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd-dir Effraim, a byddai'r Israeliaid yn mynd ati am farn.

6 Anfonodd hi am Barac fab Abinoam o Cedes Nafftali, a dweud wrtho, “Onid yw'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn gorchymyn iti? Dos, cynnull ddeng mil o ddynion o lwythau Nafftali a Sabulon ar Fynydd Tabor, a chymer hwy gyda thi.

7 Denaf finnau, i'th gyfarfod wrth nant Cison, Sisera, capten byddin Jabin, gyda'i gerbydau a'i lu; ac fe'u rhoddaf yn dy law.”

8 Ond dywedodd Barac wrthi, “Os doi di gyda mi, yna mi af; ac os na ddoi di gyda mi, nid af.”

9 Meddai hithau, “Dof, mi ddof gyda thi; eto ni ddaw gogoniant i ti ar y llwybr a gerddi, oherwydd i law gwraig y mae'r ARGLWYDD am werthu Sisera.” Yna cododd Debora a mynd gyda Barac i Cedes.

10 Cynullodd Barac lwythau Sabulon a Nafftali i Cedes, a dilynodd deng mil o ddynion ar ei ôl; aeth Debora hefyd gydag ef.

11 Yr oedd Heber y Cenead wedi ymwahanu oddi wrth y Ceneaid eraill oedd yn ddisgynyddion Hobab, tad-yng-nghyfraith Moses, ac wedi gosod ei babell cyn belled â'r dderwen yn Saanannim ger Cedes.

12 Pan ddywedwyd wrth Sisera fod Barac fab Abinoam wedi mynd i fyny i Fynydd Tabor,

13 galwodd Sisera ei holl gerbydau—naw cant o gerbydau haearn—a'i holl filwyr, o Haroseth y Cenhedloedd at nant Cison.

14 Yna dywedodd Debora wrth Barac, “Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?” Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wŷr ar ei ôl.

15 Gyrrodd yr ARGLWYDD Sisera a'r cerbydau i gyd, a'r holl fyddin, ar chwâl o flaen cleddyf Barac. Disgynnodd Sisera o'i gerbyd a ffoi ar ei draed.

16 Ymlidiodd Barac y cerbydau a'r fyddin cyn belled â Haroseth y Cenhedloedd, a chwympodd holl fyddin Sisera o flaen y cleddyf, heb adael cymaint ag un.

17 Ffodd Sisera ar ei draed i babell Jael, gwraig Heber y Cenead, oherwydd yr oedd heddwch rhwng Jabin brenin Hasor a theulu Heber y Cenead.

18 Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, “Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni.” Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto.

19 Gofynnodd iddi am lymaid o ddŵr i'w yfed, gan fod syched arno, ond agorodd hi botel o laeth a rhoi diod iddo, ac yna ei orchuddio eto.

20 Dywedodd wrthi, “Saf yn nrws y babell, ac os daw rhywun a gofyn iti a oes unrhyw un yma, dywed, ‘Nac oes’.”

21 Cymerodd Jael, gwraig Heber, hoelen pabell, cydiodd mewn morthwyl, ac aeth ato'n ddistaw a phwyo'r hoelen trwy ei arlais i'r llawr; yr oedd ef mewn trymgwsg ar ôl ei ludded, a bu farw.

22 Yna cyrhaeddodd Barac, yn ymlid Sisera; aeth Jael allan i'w gyfarfod, a dywedodd wrtho, “Tyrd, fe ddangosaf iti'r dyn yr wyt yn chwilio amdano.” Aeth yntau i mewn, a dyna lle'r oedd Sisera yn gorwedd yn farw, a'r hoelen yn ei arlais.

23 Y diwrnod hwnnw darostyngodd Duw Jabin brenin Canaan gerbron yr Israeliaid.

24 Pwysodd yr Israeliaid yn drymach, drymach arno, nes iddynt ddistrywio Jabin brenin Canaan.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21