Barnwyr 7 BCN

Gideon yn Gorchfygu Midian

1 Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More.

2 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalchïo yn f'erbyn a dweud, ‘Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.’

3 Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, ‘Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.’ ” Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar ôl.

4 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gormod o bobl eto. Dos â hwy i lawr at y dŵr, a phrofaf hwy iti yno. Pan ddywedaf wrthyt, ‘Y mae hwn i fynd gyda thi’, bydd hwnnw'n mynd gyda thi; a phan ddywedaf, ‘Nid yw hwn i fynd gyda thi’, ni fydd yn mynd.”

5 Aeth Gideon â'r bobl i lawr at y dŵr, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pob un sy'n llepian y dŵr â'i dafod fel y bydd ci'n llepian, gosod hwnnw ar wahân i'r rhai sy'n penlinio ac yn yfed trwy ddod â'u llaw at eu genau.”

6 Tri chant oedd nifer y rhai oedd yn llepian, a phawb arall yn penlinio i yfed dŵr.

7 Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Trwy'r tri chant sy'n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law; caiff pawb arall fynd adref.”

8 Cymerodd Gideon biserau'r bobl a'r utgyrn oedd ganddynt, ac anfon yr Israeliaid i gyd adref, ond cadw'r tri chant. Yr oedd gwersyll Midian islaw iddo yn y dyffryn.

9 Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law.

10 Os oes arnat ofn mynd, dos â Pura dy lanc gyda thi at y gwersyll,

11 a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud; yna fe gryfheir dy law wedi iti fod i lawr yn y gwersyll.” Felly fe aeth ef a Pura ei lanc at ymyl y milwyr arfog yn y gwersyll.

12 Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi â thywod glan y môr.

13 Pan gyrhaeddodd Gideon, dyna lle'r oedd rhyw ddyn yn adrodd breuddwyd wrth ei gyfaill ac yn dweud, “Dyma'r freuddwyd a gefais. Yr oeddwn yn gweld torth o fara haidd yn rhowlio trwy wersyll Midian, a phan ddôi at babell, yr oedd yn ei tharo a'i thaflu a'i dymchwel nes bod y babell yn disgyn.”

14 Atebodd ei gyfaill, “Nid yw hyn yn ddim amgen na chleddyf Gideon fab Joas yr Israeliad; y mae Duw wedi rhoi Midian a'r holl wersyll yn ei law.”

15 Pan glywodd Gideon adrodd y freuddwyd a'i dehongli, ymgrymodd i'r llawr; yna dychwelodd at wersyll Israel a dweud, “Codwch, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi gwersyll Midian yn eich llaw.”

16 Rhannodd y tri chant yn dair mintai, a rhoi yn eu llaw utgyrn, a phiserau gwag gyda ffaglau o'u mewn. Dywedodd wrthynt, “Edrychwch arnaf fi, a gwnewch yr un fath.

17 Pan ddof fi at gwr y gwersyll, yna gwnewch yr un fath â mi.

18 Pan fyddaf fi a phawb sydd gyda mi yn seinio'r utgorn, seiniwch chwithau eich utgyrn o bob tu i'r gwersyll, a dweud, ‘Yr ARGLWYDD a Gideon!’ ”

19 Cyrhaeddodd Gideon a'r cant o ddynion oedd gydag ef at gwr y gwersyll ar ddechrau'r wyliadwriaeth ganol, a'r gwylwyr newydd eu gosod. Seiniasant yr utgyrn, a dryllio'r piserau oedd yn eu llaw.

20 A dyma'r tair mintai yn seinio'r utgyrn ac yn dryllio'r piserau, gan ddal y ffaglau yn eu llaw chwith a'r utgyrn i'w seinio yn eu llaw dde; ac yr oeddent yn gweiddi, “Cleddyf yr ARGLWYDD a Gideon!”

21 Tra oedd pob un yn sefyll yn ei le o gwmpas y gwersyll, rhuthrodd yr holl wersyll o gwmpas gan weiddi a ffoi.

22 Tra oedd y tri chant yn seinio'r utgyrn, trodd yr ARGLWYDD gleddyf pob un yn y gwersyll yn erbyn ei gymydog, a ffoesant cyn belled â Beth-sitta yn Serera, ac i gyffiniau Abel-mehola a Tabbath.

23 Galwyd ar yr Israeliaid o Nafftali, Aser a Manasse gyfan, a buont yn erlid ar ôl y Midianiaid.

24 Yr oedd Gideon wedi anfon negeswyr drwy holl ucheldir Effraim a dweud, “Dewch i lawr yn erbyn Midian a chymryd rhydau'r Iorddonen o'u blaen hyd Beth-bara.” Casglwyd holl wŷr Effraim a daliasant rydau'r Iorddonen cyn belled â Beth-bara.

25 Daliasant Oreb a Seeb, dau arweinydd Midian, a lladd Oreb wrth graig Oreb, a Seeb wrth winwryf Seeb; yna, wedi iddynt erlid Midian, daethant â phen Oreb a phen Seeb at Gideon y tu hwnt i'r Iorddonen.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21