2 Dywedodd Jefftha, “Yr oedd gennyf fi a'm pobl achos chwerw yn erbyn yr Ammoniaid, ond pe byddwn wedi galw arnoch chwi, ni fyddech wedi fy achub o'u llaw.
3 Pan welais na fyddech yn fy achub, mentrais fynd yn erbyn yr Ammoniaid; ac fe roddodd yr ARGLWYDD hwy yn fy llaw. Pam yr ydych wedi dod ataf heddiw i ymladd â mi?”
4 Yna casglodd Jefftha holl filwyr Gilead at ei gilydd ac ymladd ag Effraim; a threchodd milwyr Gilead bobl Effraim, am iddynt ddweud, “Fföedigion o Effraim ydych chwi, bobl Gilead, ymysg pobl Effraim a Manasse.”
5 Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, “Ai un o Effraim wyt ti?” Pe byddai hwnnw'n ateb, “Nage”,
6 yna byddent yn dweud wrtho, “Dywed, ‘Shibboleth’.” Byddai yntau'n dweud, “Sibboleth”, gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wŷr Effraim y pryd hwnnw.
7 Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn Gilead.
8 Ar ei ôl ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel.