7 Bu Jefftha o Gilead yn farnwr ar Israel am chwe blynedd; a phan fu farw, claddwyd ef yn ei dref yn Gilead.
8 Ar ei ôl ef bu Ibsan o Fethlehem yn farnwr ar Israel.
9 Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a deg ar hugain o ferched. Rhoddodd ei ferched ei hun mewn priodas i rai o'r tu allan, a chyrchodd ddeg ar hugain o ferched o'r tu allan yn wragedd i'w feibion. Bu'n farnwr ar Israel am saith mlynedd.
10 Pan fu Ibsan farw, claddwyd ef ym Methlehem.
11 Ar ei ôl ef bu Elon o Sabulon yn farnwr ar Israel am ddeng mlynedd.
12 Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon.
13 Ar ei ôl ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel.