10 Pan ddewch yno, byddwch yn dod at bobl ddibryder ac i wlad eang; yn wir y mae Duw wedi rhoi i chwi le heb ynddo brinder o ddim ar y ddaear.”
11 Felly cychwynnodd chwe chant o wŷr arfog yn perthyn i lwyth Dan o Sora ac Estaol.
12 Aethant a gwersyllu yn Ciriath-jearim yn Jwda, a dyna pam yr enwyd y lle hwnnw Mahane-dan hyd heddiw; y mae i'r gorllewin o Ciriath-jearim.
13 Oddi yno aethant ymlaen i fynydd-dir Effraim nes dod at dŷ Mica.
14 Yna dywedodd y pump, a oedd wedi mynd i ysbïo'r wlad cyn belled â Lais, wrth eu brodyr, “A wyddoch chwi fod effod, teraffim, cerfddelw a delw dawdd yn un o'r tai hyn? Gwyddoch beth i'w wneud yn awr.”
15 Troesant am y lle, a dod at dŷ Mica, cartref y llanc o Lefiad, a'i gyfarch.
16 Safodd y chwe channwr arfog o lwyth Dan wrth y drws,