28 Nid oedd neb i'w harbed, oherwydd yr oedd yn rhy bell o Sidon, ac nid oedd ganddynt gysylltiad â neb. Yr oedd y dref mewn dyffryn yn perthyn i Beth-rehob, ac ailgododd y Daniaid y dref a byw ynddi,
29 a'i galw'n Dan ar ôl eu tad Dan, a aned i Israel. Ond Lais oedd enw'r dref ar y cyntaf.
30 Gosododd y Daniaid y gerfddelw i fyny, a bu Jonathan fab Gersom, fab Manasse, ac yna'i feibion, yn offeiriaid i lwyth Dan hyd y dydd y caethgludwyd y wlad.
31 Yr oeddent yn defnyddio'r gerfddelw a wnaeth Mica yr holl adeg y bu tŷ Dduw yn Seilo.