3 Pan oeddent gerllaw tŷ Mica, dyma hwy'n adnabod llais y llanc o Lefiad; troesant i mewn a gofyn iddo, “Pwy ddaeth â thi yma? Beth wyt ti'n ei wneud yn y fan hon? Pa fusnes sydd gennyt yma?”
4 Eglurodd sut yr oedd Mica wedi gweithredu gydag ef: “Y mae wedi fy nghyflogi, ac yr wyf finnau wedi dod yn offeiriad iddo.”
5 Dywedasant wrtho, “Gofyn i Dduw, inni gael gwybod a lwyddwn ar ein taith.”
6 Dywedodd yr offeiriad wrthynt, “Ewch mewn heddwch; y mae'ch taith dan ofal yr ARGLWYDD.”
7 Aeth y pump i ffwrdd, a chyrraedd Lais. Yno gwelsant fod y bobl yn byw'n ddiogel, yr un fath â'r Sidoniaid, yn dawel a dibryder, heb fod yn brin o ddim ar y ddaear, ond yn berchnogion ar gyfoeth. Yr oeddent yn bell oddi wrth y Sidoniaid, heb gysylltiad rhyngddynt a neb.
8 Wedi iddynt ddychwelyd at eu pobl i Sora ac Estaol, gofynnodd eu pobl, “Beth yw'ch barn?”
9 Ac meddent hwy, “Dewch, awn i fyny yn eu herbyn, oherwydd gwelsom fod y wlad yn ffrwythlon iawn. Pam yr ydych yn sefyllian? Peidiwch ag oedi mynd yno i gymryd meddiant o'r wlad.