1 Yn y dyddiau hynny nid oedd brenin yn Israel. Yr oedd rhyw Lefiad yn byw yng nghyffiniau mynydd-dir Effraim, ac fe gymerodd iddo ordderchwraig o Fethlehem Jwda.
2 Ond bu'r ordderchwraig yn anffyddlon iddo; gadawodd ef a dianc adref i Fethlehem Jwda. Wedi iddi fod yno ryw bedwar mis,
3 cychwynnodd ei gŵr ar ei hôl gyda'i was a dau asyn, i'w denu hi'n ôl. Daeth hi ag ef i'w chartref, a phan welodd ei thad ef yr oedd yn falch o'i gyfarfod.
4 Mynnodd ei dad-yng-nghyfraith, sef tad yr eneth, iddo aros yno am dridiau, a buont yn bwyta ac yn yfed ac yn cysgu yno.