14 Ymgasglodd y Benjaminiaid o'u trefi i Gibea er mwyn mynd i ryfel yn erbyn yr Israeliaid.
15 Ar y dydd hwnnw rhestrwyd o drefi'r Benjaminiaid chwe mil ar hugain o ddynion yn dwyn cleddyf, ar wahân i drigolion Gibea, a oedd yn rhestru saith gant o wŷr dethol.
16 Yn yr holl fyddin hon yr oedd pob un o'r saith gant o wŷr dethol yn llawchwith, ac yn medru anelu carreg i drwch y blewyn heb fethu.
17 Yr oedd gwŷr Israel, ar wahân i Benjamin, yn rhestru pedwar can mil o ddynion yn dwyn cleddyf, pob un yn rhyfelwr.
18 Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, “Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Jwda sydd i arwain.”
19 Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn â Gibea.
20 Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.