19 Cychwynnodd yr Israeliaid ben bore a gwersyllu gyferbyn â Gibea.
20 Aeth yr Israeliaid i ymosod ar y Benjaminiaid, a gosod eu rhengoedd ar gyfer brwydr o flaen Gibea.
21 Ond ymosododd y Benjaminiaid allan o Gibea, a gadael dwy fil ar hugain o blith byddin Israel yn farw ar y maes y diwrnod hwnnw.
22 Cyn i fyddin pobl Israel atgyfnerthu ac ailymgynnull i ryfel yn yr un fan â'r diwrnod cynt,
23 aeth yr Israeliaid i fyny i Fethel ac wylo gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a gofyn i'r ARGLWYDD, “A awn ni eto i ymladd â'n brodyr y Benjaminiaid?” Atebodd yr ARGLWYDD, “Ewch!”
24 Felly fe aeth yr Israeliaid i ryfela â'r Benjaminiaid yr ail ddiwrnod.
25 Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch arnynt eilwaith o Gibea, a'r tro hwn gadael deunaw mil o blith byddin Israel yn farw ar y maes, a'r rheini bob un yn dwyn cleddyf.