26 Felly fe aeth yr Israeliaid i gyd, a'r holl fyddin, i fyny i Fethel, ac wylo ac eistedd yno gerbron yr ARGLWYDD gan ymprydio drwy'r dydd hyd yr hwyr, ac offrymu poethoffrymau a heddoffrymau gerbron yr ARGLWYDD.
27 Yr adeg honno, ym Methel yr oedd arch cyfamod Duw,
28 a Phinees fab Eleasar, fab Aaron oedd yn gofalu amdani ar y pryd. Pan ofynnodd yr Israeliaid i'r ARGLWYDD, “A awn ni allan i ymladd eto â'n perthnasau y Benjaminiaid, ai peidio?” atebodd yr ARGLWYDD, “Ewch, oherwydd yfory fe'u rhoddaf hwy yn eich llaw.”
29 Gosododd Israel filwyr cudd o amgylch Gibea,
30 cyn mynd i fyny'r trydydd dydd yn erbyn y Benjaminiaid ac ymgynnull yn eu rhengoedd o flaen Gibea fel cynt.
31 Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.
32 Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, “Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen”; a'r Israeliaid yn dweud, “Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd.”