6 Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.
7 Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr.”
8 Cododd yr holl bobl fel un gŵr a dweud, “Ni ddychwel neb ohonom i'w babell na mynd yn ôl adref.
9 Dyma'r hyn a wnawn i Gibea: awn yn ei herbyn trwy fwrw coelbren;
10 a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel.”
11 Felly daeth yr holl Israeliaid at ei gilydd fel un yn erbyn y dref.
12 Anfonodd llwythau Israel ddynion drwy holl lwyth Benjamin gan ddweud, “Pa gamwri yw hwn a ddigwyddodd yn eich mysg?