18 Ar ôl gorffen cyflwyno'r deyrnged, anfonodd ymaith y bobl a fu'n cario'r deyrnged,
19 ond dychwelodd Ehud ei hun oddi wrth y colofnau ger Gilgal a dweud, “Y mae gennyf neges gyfrinachol iti, O frenin.”
20 Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, “Gair gan Dduw sydd gennyf iti.” Cododd yntau oddi ar ei sedd.
21 Yna estynnodd Ehud ei law chwith, cydiodd yn y cleddyf oedd ar ei glun dde, a'i daro i fol Eglon,
22 nes bod y carn yn mynd i mewn ar ôl y llafn, a'r braster yn cau amdano. Ni thynnodd y cleddyf o'i fol, a daeth allan y tu cefn.
23 Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi.
24 Wedi iddo fynd i ffwrdd, daeth gweision Eglon, ac wedi edrych a gweld drysau'r ystafell ynghlo, dywedasant, “Rhaid mai esmwytháu ei gorff y mae yn yr ystafell haf.”