28 Dywedodd wrthynt, “Dilynwch fi, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi eich gelyn Moab yn eich llaw.” Aethant hwythau ar ei ôl a dal rhydau'r Iorddonen yn erbyn Moab, a rhwystro pawb rhag croesi.
29 Lladdasant y pryd hwnnw tua deng mil o'r Moabiaid, pob un yn heini a grymus; ni ddihangodd neb.
30 Darostyngwyd y Moabiaid y diwrnod hwnnw dan law Israel, a chafodd y wlad lonydd am bedwar ugain mlynedd.
31 Ar ei ôl ef bu Samgar fab Anath. Lladdodd ef chwe chant o Philistiaid â swmbwl gyrru ychen. Fe waredodd yntau Israel.